Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Byddwn yn rhoi ar gael popeth y gellir ei roi ar gael, yn amodol ar drafodaethau cyfrinachedd masnachol, wrth gwrs, gyda busnesau eraill. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn o ran y penderfyniad hwn ac o ran y prosiect hwn bod cymaint o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd â phosibl. Nid ydym yn ofni hynny ac, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried: sut y gallwn ni gael cymaint o wybodaeth â phosibl i mewn i'r parth cyhoeddus. Gwelsom rywfaint yn dod i'r amlwg heddiw mewn modd anffodus, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yno i’r Aelodau ac i aelodau o'r cyhoedd.