<p>Diwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:57, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau allweddol i'n cymunedau, felly mae'n hanfodol bwysig bod gennym ni ddemocratiaeth leol ffyniannus. Un o ofynion sylfaenol hynny yw awdurdodau lleol sy'n adlewyrchu eu poblogaethau lleol, ond darparodd yr etholiadau lleol diweddaraf rywbeth fel 28 y cant o'n cynghorwyr ledled Cymru o ran cynghorwyr sy’n fenywod, gydag awdurdodau lleol unigol yn amrywio o rywbeth fel 10 y cant i 40 y cant. Felly, mae angen i ni wneud cynnydd. A fyddech chi’n cytuno â mi mai un agwedd bwysig ar wneud y cynnydd angenrheidiol yw cael esiamplau cryf ymhlith ein cynghorwyr benywaidd yng Nghymru? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i groesawu ail-ethol Debbie Wilcox i arwain Cyngor Dinas Casnewydd, ac, mewn etholiad dilynol, i arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac felly i arwain llywodraeth leol yng Nghymru?