<p>Diwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:58, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, cyfeirir yn eang at Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn y Papur Gwyn diwygio llywodraeth leol, ac mae'n gwbl eglur fod y Ddeddf benodol hon yn rhoi cyfle gwych i ni gyfrannu at ddiwygio llywodraeth leol yn llwyddiannus. Mae trechu tlodi hefyd yn thema allweddol yn y Ddeddf honno. O ystyried amseriad dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac yn unol â diwygio awdurdodau lleol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gynnwys ffrwd lleihau tlodi yn y newidiadau hynny wrth symud ymlaen?