Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Mae'n chwarae rhan gyfoethog yn ein diwylliant a’n traddodiad. Rydym ni bron i flwyddyn ymlaen o Bencampwriaeth Ewrop, a wnaeth fwy, mae'n debyg, nag y gallai unrhyw wleidydd ei wneud i godi proffil Cymru ledled Ewrop a'r byd. Ie, un o'r pethau yr ydym ni’n ei anghofio weithiau yw, ar y pryd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd gennym fawr ddim arall i’w ddangos fel cenedl, bod chwaraeon wedi chwarae rhan enfawr o ran datblygu Cymru fodern a rhoi ymdeimlad o genedligrwydd i bobl. Yn 1905 y canwyd yr anthem genedlaethol gyntaf mewn unrhyw ddigwyddiad chwaraeon mewn unrhyw le yn y byd, yn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd. Felly, mae'n hynod bwysig, nid yn unig o ran ychwanegu at ein diwylliant, ond, wrth gwrs, fel ysgogwr economaidd, yn enwedig yn Abertawe.