Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Mae hwn yn fater yr wyf i’n sicr wedi ei gefnogi yn y gorffennol—tîm undydd yn sicr. Nid tîm prawf; nid wyf yn credu ein bod ni’n chwarae’n agos at y lefel honno. Ond mae'n rhyfedd ein bod ni’n gweld Iwerddon a'r Alban yn chwarae mewn cystadlaethau rhyngwladol ac nid Cymru. Roedd gennym ni dîm undydd ar un adeg am ychydig flynyddoedd. Gwn fod pryderon ym Morgannwg oherwydd y fantais ariannol y maen nhw’n ei chael, o fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, gan fod hynny’n cael ei anghofio weithiau, ond o’m safbwynt i, hoffwn yn fawr iawn ein gweld ni’n cael ein cynrychioli’n rhyngwladol ar y maes criced, cyn belled, wrth gwrs, nad oes ergyd ariannol i Forgannwg a'u gallu i chwarae ar y lefel uchaf.