Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Rydym ni wedi cael digwyddiadau, wrth gwrs, yn cael eu cynnal yng Nghymru. Cafwyd y Tour of Britain, os wyf i’n cofio’n iawn. Rwy'n cofio bod yng Nghaerffili, yn ei wylio wrth iddo groesi mynydd Caerffili. Mae gennym ni, wrth gwrs, y felodrom yng Nghasnewydd, sy'n gyfleuster da iawn i bobl allu ei ddefnyddio, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi cael llwyddiant ym myd seiclo rhyngwladol—Geraint Thomas, wrth gwrs, ar hyn o bryd; Nicole Cook ac eraill yn y gorffennol—yn dangos bod y cyfleusterau gennym ni i hyrwyddo seiclo. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod seiclo, unwaith eto, yn un o'r campau hynny sy’n gamp elitaidd ar lefel ryngwladol, ond yn weithgaredd hynod o bwysig o ran gwella iechyd pobl pan eu bod yn seiclo ar gyfer hamdden.