Part of the debate – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad, os gwelwch yn dda, ac rwy’n credu fy mod i wedi gofyn am hyn o'r blaen, ac roedd awgrym y byddai hynny’n digwydd, ond ni chafodd ei roi ar gael, ar y ffordd fynediad ogleddol—byddwch chi’n gyfarwydd â hi—o gwmpas ardal fenter Sain Tathan? Byddwch hefyd yn gyfarwydd iawn â sylwadau a gwrthwynebiadau cryf iawn Cyngor Tref Llanilltud Fawr a Chyngor Cymuned Llan-faes i’r ffordd newydd a gynigir ar gyfer ardal Sain Tathan. Mae'r cais cynllunio wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ac, i mi, yn sicr, nid yw'n ymddangos bod achos cydlynol wedi’i gyflwyno o ran pam mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i wario £15 miliwn ar y darn hwn o ffordd pan allai’r seilwaith presennol, gyda buddsoddiad cymharol fach, ddarparu’n rhwydd ar gyfer y lefelau traffig diwygiedig a allai ddigwydd oherwydd y buddsoddiad yn yr ardal fenter. Rwy’n credu y byddai'n rhoi llawer o wybodaeth i bobl leol pe gellid cyflwyno’r datganiad hwn ac, yn arbennig, byddai cyngor cymuned Llan-faes a chyngor tref Llanilltud yn elwa ar gael gwybodaeth glir a gwrthrychol ynghylch pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £15 miliwn o wariant ar ddarn o ffordd, nad wyf wedi dod o hyd i neb sy’n ei gefnogi yn lleol.