Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Rwy'n croesawu ymateb y Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru am y mater o fenywod o Ogledd Iwerddon yn gallu cael erthyliadau yn rhad ac am ddim yng Nghymru. Roeddwn i eisiau canmol ymdrechion un o feincwyr cefn y Blaid Lafur, sef Stella Creasy, y gwnaeth ei hymgyrchu a’i gweithrediadau olygu bod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud y penderfyniad hwn yn Lloegr. Rwy’n galw am ddatganiad manwl gan Lywodraeth Cymru, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol, am sut y bydd hyn yn cael ei roi ar waith yng Nghymru. Rwyf ar ddeall bod 724 o fenywod o Ogledd Iwerddon, y llynedd, wedi defnyddio gwasanaeth erthylu yng Nghymru a Lloegr. Felly, a gawn ni ddatganiad i egluro'r rhifau yng Nghymru? Y cyllid—rwy’n nodi y bydd y cyllid o San Steffan yn dod o swyddfa cydraddoldeb Llywodraeth y DU. Ac, yn amlwg, beth am fater y costau teithio a’r mân dreuliau? Oherwydd y cyflwynwyd achos yn y Goruchaf Lys yn gynharach eleni gan ferch feichiog 15 mlwydd oed a'i mam, a deithiodd o Ogledd Iwerddon i Fanceinion, a'r gost oedd £900. Yn amlwg, mae’r math hwn o daliad yn ychwanegu at y straen a'r stigma sydd ynghlwm wrth ddigwyddiad mor ofidus.