Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Ydw, rwyf yn cofio, wrth gwrs, y trafodaethau hynny o amser maith yn ôl, ac mae'r gwaith ar y cyd a gyflawnwyd, sut y symudwyd hynny ymlaen. Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd yn eich sylwadau am bwysigrwydd cynnig ARCH, yr wyf yn credu ac yn deall—oherwydd yr oedd cefnogaeth fawr draws-lywodraethol, a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hynny—ei fod hefyd yn cyfrannu at fargen ddinesig rhanbarth bae Abertawe o ran y cyfleoedd, y nodau a’r amcanion arloesol, blaengar a thrawsbynciol, o ran iechyd a llesiant a bod hynny yn rhan o ddatblygiad economaidd bae Abertawe a'r fargen ddinesig.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig dim ond i gydnabod, o ran y cynigion ar gyfer y ganolfan trawma, bod cynnydd yn cael ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trawma mawr yn ne Cymru, ond nid oes penderfyniad ar leoliad y ganolfan trawma mawr wedi ei wneud hyd yn hyn.