Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wedi ymddangos i mi erioed bod gan bob tymor Cynulliad ei gymeriad ei hun a’i gyfraniad arbennig i'w wneud at daith datganoli. Ymhlith nodweddion diffiniol y pumed Cynulliad, rwy’n credu, bydd ymgymryd â’n cyfrifoldebau cyllidol newydd. Mae llawer iawn o amser wedi’i dreulio yn y flwyddyn gyntaf hon—ac, yn fy marn i, wedi’i dreulio yn fuddiol—ar lawr y Cynulliad ac yn y pwyllgor, i sicrhau fframwaith cyllidol i Gymru, craffu ar ddau Fil treth newydd a chytuno arnynt, sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, a rhoi ar waith y gyfres gyntaf o drefniadau ar gyfer goruchwyliaeth annibynnol y cyfrifoldebau newydd hyn. Mae dadl y prynhawn yma’n tynnu sylw at linyn pellach yn y posibiliadau newydd hyn ar gyfer Cymru, oherwydd pan gyhoeddwyd ein fframwaith a’n cynllun gwaith ar gyfer polisi treth ym mis Mehefin, roedd y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i brofi pŵer Deddf Cymru 2014, sy'n galluogi Cymru i wneud yr achos o blaid trethi datganoledig newydd a chynnig y trethi hynny.
Nawr, Llywydd, yn sicr nid yw’r broses ar gyfer cyflwyno treth newydd yng Nghymru yn un syml. Mae Rhan 4A newydd wedi’i chyflwyno i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Mae'r Rhan hon yn caniatáu pennu trethi datganoledig ychwanegol, ond mae angen Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i wneud hynny. Ac er mwyn gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, mae'n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ'r Senedd ei gymeradwyo. Mae'r ffordd yr ydym yn dechrau arni heddiw, felly, yn anochel yn un hir, ond unwaith y bydd treth ddatganoledig newydd wedi'i phennu, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwyster i ddeddfu wedyn yn y maes hwnnw yn y ffordd arferol.
Mae'r papur gorchymyn a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Deddf Cymru 2014 yn nodi'r meini prawf y byddai Llywodraeth y DU yn eu defnyddio i asesu unrhyw dreth newydd a'r wybodaeth y byddai angen ei chyflenwi i ategu unrhyw gynnig. Cyn belled ag y mae’r profion dan sylw, maent yn cynnwys i ba raddau y mae unrhyw dreth newydd yn effeithio ar bolisi macro-economaidd neu ariannol y DU, i ba raddau y mae'n cynyddu'r risg o osgoi talu treth, ac i ba raddau y mae'n creu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau ac unigolion. O ran y wybodaeth y byddai'n rhaid ei darparu, byddai angen i Lywodraeth Cymru gynnwys manylion llawn y gweithgaredd trethadwy; amcangyfrif o’r effaith ar refeniw a'r economi; yr incwm amcangyfrifedig ar refeniw yn y DU neu ryngweithio â threthi’r DU gyfan; yr effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion; asesiad yn erbyn pob deddfwriaeth a chyfarwyddeb berthnasol; a chynlluniau cydymffurfio a chasglu.
Nawr, er gwaethaf y rhestr eithaf brawychus honno, rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig ein bod ni, fel rhan o waith y tymor Cynulliad hwn, yn profi’r posibilrwydd newydd hwn ac yn gweld sut y byddai'r systemau y mae Deddf Cymru 2014 yn eu rhoi ar waith yn gweithio yn ymarferol.