8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:13, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog. Hoffwn ddeall—oherwydd dywedodd ar y dechrau ei fod yn dymuno profi’r system hon yn y Cynulliad hwn. O gofio bod yna broses eithaf cymhleth, fel y clywsom, yn y Senedd, ac o ystyried nad oes, ar hyn o bryd, gyda'r holl wahanol syniadau treth hyn, un dreth amlwg, glir sy'n ennyn llawer iawn o drafodaeth na chefnogaeth ymysg y cyhoedd—er fy mod yn mynd i sôn am un yr wyf yn meddwl y gallai gael rhywbeth i'w wneud â hynny—sut y mae'n meddwl ei bod yn ymarferol profi hyn yn drylwyr yn ystod y Cynulliad hwn?