Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fel y gwyddom, penderfynodd y Llywodraeth beidio â chefnogi prosiect Cylchffordd Cymru, ar sail y risg y gellid ei ddosbarthu ar y fantolen, ac felly, y byddai iddo oblygiadau mawr i gyllideb Llywodraeth Cymru. Nawr, mae gennyf ddiddordeb yn y broses benderfynu a arweiniodd at yr asesiad hwn mewn perthynas â dosbarthiad y fantolen, gan y gallai hyn godi mewn llu o brosiectau eraill yn y dyfodol. Gwyddom, o ymddangosiad Ysgrifennydd y Cabinet yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, fod ei adran wedi cronni cannoedd o dudalennau o arbenigedd yn y maes hwn gan ei fod wedi codi yng nghyd-destun y model buddsoddi cydfuddiannol.
Mewn perthynas â’r penderfyniad penodol hwn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’r unigolyn a baratôdd y papur ar ddosbarthiad y fantolen, a aeth i’r Cabinet yr wythnos diwethaf, yn rhan o’i dîm? Nid wyf yn chwilio am enw, dim ond ceisio deall cyfrifoldeb adrannol. Felly, a gomisiynwyd y papur dan sylw ganddo ef—gan yr Ysgrifennydd cyllid—neu a oedd yn gwybod ei fod wedi’i gomisiynu? Ac a welodd y papur cyn y cyfarfod yr wythnos diwethaf?