Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Soniais am y model buddsoddi cydfuddiannol, ond rwy’n deall o’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma, nad yw’n credu bod y mater, a nodwyd fel rhan o’r penderfyniad ynglŷn â Chylchffordd Cymru, yn effeithio ar y dosbarthiad mewn perthynas â’r model buddsoddi cydfuddiannol. A allai ddweud ychydig bach rhagor ynglŷn â pham ei fod yn credu hynny, ac os felly, oni ystyriwyd dull tebyg o weithredu ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru? A all ddweud hefyd a yw’n ymwybodol, yn yr achos hwn, pa un a gysylltwyd ag unrhyw un o’r canlynol am gyngor neu arweiniad o ran dosbarthiad mantolen Cylchffordd Cymru? Fe’u darllenaf yn araf: tîm dosbarthiadau gwariant cyhoeddus Trysorlys Ei Mawrhydi; tîm dosbarthiadau ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol; pwyllgor dosbarthiadau ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol; ac yn olaf, pwyllgor Eurostat ar ystadegau ariannol, cyllidol a mantoli taliadau.