Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ni chefais ymrwymiad clir gan y Prif Weinidog ddoe mewn perthynas â chynnwys ffrwd glir ar gyfer lleihau tlodi yn y broses o ddiwygio awdurdodau lleol yn y dyfodol. Nawr, mae eich Papur Gwyn yn nodi’r angen i edefyn aur sy’n cysylltu dyheadau ar lefel y gymuned ag amcanion lles ddod yn realiti. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i sicrhau bod edefyn aur o ran lleihau tlodi yn cael ei flaenoriaethu yn yr un modd fel realiti yn eich amcanion arfaethedig ar gyfer y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen, gyda chyfeiriad strategol wedi’i nodi’n glir, uchelgais, amcanion a chanlyniadau y gellir eu cyflawni?