Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cyllideb derfynol 2017-18 yn alinio buddsoddiad ag ymrwymiadau allweddol yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Ym mhrif grŵp gwariant cymunedau a phlant, mae hynny’n cynnwys £10 miliwn yn ychwanegol i gefnogi ein cynnig gofal plant di-dâl, £6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd, ac £1.4 biliwn dros bedair blynedd tuag at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.