<p>Cymunedau a Phlant</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwy’n deall y pwynt a wna’r Aelod ynglŷn â’r angen am wasanaethau cynghori da a’r ffordd y gall cyngor da ganiatáu i broblemau gael eu datrys cyn iddynt waethygu. Y ffordd y mae’r broses o lunio’r gyllideb yn gweithio, fodd bynnag, yw mai cyfrifoldeb y Gweinidogion portffolio yw nodi blaenoriaethau o fewn yr ystod o gyfrifoldebau a gyflawnant. Rydym wedyn yn negodi cyllideb gyda’n gilydd ar gyfer cyflawni’r blaenoriaethau hynny, ac Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb a fyddai’n gwneud y penderfyniadau mewn perthynas â’r defnydd o adnoddau ar draws yr ystod eang o gyfrifoldebau, fel y dywedodd Mark Isherwood, sydd i’w cael o fewn y portffolio penodol hwnnw. Rydym wedi dechrau ar y cylch cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dan sylw mewn perthynas â’i bortffolio a byddaf yn sicrhau bod cwestiwn penodol yn cael ei ofyn yn y drafodaeth ynglŷn â’r pwynt a gododd yr Aelod am wasanaethau cynghori.