Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Ond gan ddychwelyd at y cwestiwn, cyfeiria’r cwestiwn at wydnwch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Roeddwn yn meddwl tybed a yw’r Ysgrifennydd cyllid wedi cael cyfle i gael sgwrs fanwl o amgylch bwrdd y Cabinet ynglŷn â sut y bydd y Cabinet yn defnyddio’r gwariant cyfalaf ychwanegol sydd ar gael drwy’r adolygiad cynhwysfawr o wariant? Credaf fod oddeutu £400 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer gwariant cyfalaf a fydd yn gwella gwydnwch a chydnerthedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac a wnaiff ddatganiad ynglŷn â sut y bydd yn dyrannu’r arian ychwanegol hwn dros oes yr adolygiad cynhwysfawr o wariant?