Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch. Mae gan rai Aelodau brofiad o gynnal lleoliadau interniaeth yn y Cynulliad. Caiff y rhain eu rheoli ym mhleidiau gwleidyddol y Cynulliad a sefydliadau addysg uwch, neu gan Aelodau unigol trwy eu cysylltiadau eu hunain. Mae cyflwyno interniaid i waith y gwleidyddion a’r grwpiau gwleidyddol yn rhan bwysig o wneud y corff yma yn hygyrch ac o ennyn diddordeb pobl yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma. Byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth i’r syniad o symud i gynllun gan y Llywydd i ddarparu lleoliadau â thâl, o gofio’r trefniadau cymorth ariannol ar gyfer staff Aelodau’r Cynulliad.