Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch am eich syniadau ychwanegol ynglŷn â sut y gellid datblygu system o’r fath. Mae pob un ohonom fel Aelodau Cynulliad unigol, rwy’n siŵr, yn agor ein drysau yn ein hetholaethau, ac yn darparu cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ifanc, yn enwedig yn ein hetholaethau. Credaf efallai fod y ffaith fod y bwrdd taliadau ar fin dechrau ar yr adolygiad hwn o gymorth staffio yn galluogi’r Aelodau yma, a ninnau fel Comisiwn, i edrych ar ffyrdd o geisio gwneud ein strwythurau cyllido, a’n strwythurau cymorth i staff, yn ddigon hyblyg i ganiatáu ffordd fwy arloesol o ddarparu mwy o hyblygrwydd i Aelodau edrych ar sut y gallant ddenu pobl o fannau mwy newydd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn y lle hwn.