Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
80 mlynedd yn ôl, cafodd 4,000 o blant eu symud o Bilbao i’r DU yn dilyn y bomio yn Guernica yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Cafodd cartrefi a elwid yn wersylloedd eu sefydlu ar gyfer ffoaduriaid, gan gynnwys pedwar yng Nghymru, ac roedd un ohonynt yn Cambria House yng Nghaerllion, lle y cyrhaeddodd 56 o blant ar 10 Gorffennaf, 1937. Tyfodd hwn i fod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU. Roedd yn gyfnod o ddiweithdra a thlodi enbyd, ond croesawodd pobl Caerllion y plant â breichiau agored. Roedd pawb yn rhan o’r ymdrech i godi arian, o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, gwirfoddolwyr lleol, i’r plant eu hunain. Aethant ati i ffurfio tîm pêl-droed Basgaidd gwych, cynhyrchu eu papur newydd dwyieithog eu hunain yn ogystal â helpu i godi arian drwy ddawnsiau a chaneuon Basgaidd traddodiadol. Roedd warden y tŷ, Mrs Maria Fernandez, yn annog y plant i chwarae, i ddysgu ac i gymdeithasu ag eraill yn y pentref. Roedd pawb yn caru ac yn parchu Mrs Fernandez, ac fe gadwodd mewn cysylltiad â bron bob un o’r plant nes iddi farw yn 2001, yn 97 oed. Dywedodd y cynghorydd lleol, Gail Giles, yn ddiweddar, roedd yn enghraifft wych o’r dewrder eithriadol, yr ymdrech a’r penderfyniad yng Nghymru i helpu dioddefwyr diniwed rhyfel, a’r caredigrwydd tuag at rai sydd mewn angen.
Cynhelir diwrnod o ddathlu ddydd Llun yng Ngŵyl Gelfyddydau Caerllion. Mae’n hollbwysig nad ydym byth yn anghofio ein hanes balch o haelioni tuag at, ac undod â ffoaduriaid ifanc a oedd yn dianc rhag trais 80 mlynedd yn ôl.