Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn hefyd. Ni ddylai plant a phobl ifanc sydd eisiau helpu rhiant gael eu rhwystro rhag gwneud hynny os ydynt yn dewis gwneud hynny, a dylent gael cymorth i wneud hynny. Ond rwy’n credu mai’r cwestiwn sydd angen i ni i gyd ei ofyn i ni’n hunain yw: sut y gallwn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o fywyd eu rhieni tra’u bod, ar yr un pryd, yn cadw blynyddoedd eu plentyndod a’u harddegau fel y mae pawb ohonom yn dymuno iddynt eu cael?
Ers 2006, mae nifer y gofalwyr ifanc yng Nghymru wedi dyblu bron. Mae plant a phobl ifanc sydd hefyd yn ofalwyr yn llawer mwy tebygol o golli ysgol yn aml, fel sydd newydd gael ei ddweud yn awr, ac yn ôl Barnardo’s, maent ofn gofyn am help rhag iddynt siomi’r teulu neu rhag iddynt gael eu rhoi mewn gofal. Felly, rwy’n cefnogi eich cynigion ar y mater hwn, ond rwy’n poeni am hyn: os yw plentyn yn gwybod os nad yw’n helpu na fydd neb arall yn helpu, wrth gwrs y bydd yn darparu’r cymorth sydd ei angen. Felly, yr hyn sydd gennych yn y pen draw yw plant yn aberthu eu plentyndod i wneud iawn am y bylchau yn y gofal a ddarperir i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Yn amlwg, mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu’r gofalwyr ifanc hyn ac yn y bôn, mae hynny’n golygu gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu’r gofal llawn sydd ei angen ar eu hanwyliaid.
Nid yw’r syniad o gerdyn presgripsiwn ond yn ddefnyddiol am nad yw’r teulu wedi cael y lefel gywir o gefnogaeth glinigol a fyddai’n golygu bod y feddyginiaeth yn cael ei dosbarthu iddynt. I bob pwrpas, mae plant a phobl ifanc yn gorfod datrys problem a achoswyd gan y Llywodraeth. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn golygu rhoi cyfrifoldeb arall i’r gofalwr ifanc, mae’n atgyfnerthu’r neges i’r plentyn nad yw’n blentyn mwyach mewn gwirionedd: mae’n rhannol yn blentyn ac yn rhannol yn ofalwr. Rwy’n siŵr fod rhai gofalwyr ifanc wedi dweud y byddai cerdyn o’r fath yn ddefnyddiol, ond yr unig reswm am hynny yw eu bod yn wynebu problemau wrth gasglu meddyginiaeth i’w hanwyliaid. Ni ddylai fod yn gwestiwn ynglŷn ag a ddylai plant a phobl ifanc gael cerdyn presgripsiwn, dylai ymwneud â sut y gellir sicrhau bod yr oedolyn yn cael ei feddyginiaeth, yn hytrach na bod plentyn neu berson ifanc yn teimlo mai eu dyletswydd hwy yw ei chasglu. Mae yna demtasiwn i bobl ifanc groesawu cyfrifoldeb ychwanegol. Rhan o fywyd yw bod pobl ifanc yn awyddus i fod yn hŷn tra bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn iau, ond ein rôl ni yw diogelu pobl ifanc rhag penderfyniadau nad ydynt, o bosibl, y rhai gorau er eu lles. Os oes gennym reolau ynglŷn ag oedran rhywun sy’n casglu meddyginiaeth, mae rheswm da dros hynny. Nid yw’r perygl o niwed yn lleihau yn syml oherwydd ein bod yn dymuno hynny.
Yr hyn nad wyf yn ei hoffi o gwbl am eich cynnig, Bethan, yw nad wyf yn hoffi’r geiriad ym mhwynt 2(a) sy’n cyfeirio at gyfrifoldebau gofalu pobl ifanc. Nid hwy sy’n gyfrifol am ofalu; ni a’r wladwriaeth sy’n gyfrifol amdano. Mae bodolaeth un gofalwr ifanc yn arwydd o fethiant. Fodd bynnag, dylai beth bynnag y mae’r gofalwr ifanc yn ei wneud dros eu hanwyliaid o ddydd i ddydd barhau i fod yn ddewis ac ni ddylai byth gael ei normaleiddio fel cyfrifoldeb.
Rwyf hefyd yn bryderus ynglŷn â’r canfyddiad fod angen canllawiau ar gyfer ysgolion. Does bosibl nad yw ysgolion eisoes yn darparu arweiniad: nid yw gofalwyr ifanc yn ffenomen newydd. Os nad yw ysgolion yn darparu’r gefnogaeth, a allai hynny fod oherwydd nad oes ganddynt adnoddau i nodi’n briodol a chynorthwyo’r rhai sydd angen help? Os yw hynny’n wir, yna ni fydd canllawiau’n gwneud unrhyw wahaniaeth. Mae’r Llywodraeth hon yn goruchwylio ysgolion, awdurdodau lleol a’r GIG, ac os oes methiannau, ei bai hi yw hynny. Felly, byddaf yn cefnogi’r cynnig, ond hoffwn weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru o leiaf i edrych ar ffyrdd o leihau’r tasgau a’r gofalu sy’n rhaid i ofalwyr ifanc eu cyflawni, nid ar ffyrdd o’i gwneud yn haws iddynt ddarparu’r gofal hwnnw’n unig. Diolch.