Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn heddiw i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella bywydau ein gofalwyr ifanc. Ers amser hir, rydym wedi ceisio gwella bywydau gofalwyr yng Nghymru, gan ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael i ni o ran polisi, deddfwriaeth a chyllid. Yn ôl yn 2000, cyhoeddwyd ein strategaeth gofalwyr cenedlaethol cyntaf, a dilynodd y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) yn 2010, gan wella cymorth i ofalwyr yn lleol. Bymtheg mis yn ôl, dechreuasom ar y gwaith o roi ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 arloesol ar waith, deddf sy’n cyflwyno hawliau newydd a gwell i bob gofalwr. Felly, am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr hawl gyfartal i asesiad a chefnogaeth â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Nid oes angen iddynt ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael eu hanghenion wedi’u hasesu a chael y cymorth sydd ar gael iddynt. Ac mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i roi gwybod i’w gofalwyr am eu hawl i gael eu hasesu, ac yn bwysig, ar ôl cwblhau’r asesiad hwnnw, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi trefniadau ar waith wedyn i ddiwallu’r anghenion a nodwyd a rhoi cynllun gofal statudol ar waith. Felly, deddfwriaeth sy’n gweithio ar gyfer gofalwyr mewn ffordd nad yw erioed wedi’i wneud o’r blaen.
I gefnogi’r broses o gyflwyno hawliau gwell i ofalwyr o dan y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 filiwn o gyllid eleni i iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector weithio mewn partneriaeth, a chlustnodwyd cyfran wedi’i thargedu o’r cyllid hwn yn benodol ar gyfer cefnogi gofalwyr ifanc. Ac eleni rwyf wedi cynnwys gofalwyr yng nghylch gwaith ein cronfa gofal integredig £60 miliwn, gan roi blaenoriaeth bellach i’r grŵp hwn o bobl eithriadol.
Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fel pob aelod o’r Llywodraeth hon, wedi ymrwymo i gynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys gofalwyr ifanc, i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod gofalwyr ifanc yn wynebu anawsterau ymarferol yn eu haddysg, ac oherwydd eu hamgylchiadau personol, gallant brofi problemau o ran llesiant sydd angen eu nodi a’u trin, o fewn amgylchedd yr ysgol a thu hwnt.
Mae ysgolion yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu dysgwyr ac i gefnogi’r anghenion hynny, a dyna pam rwy’n wirioneddol falch o hysbysu’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ddatblygu canllaw cam wrth gam i ysgolion ar ofalwyr ifanc. Mae’r canllawiau newydd, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl, yn helpu i nodi a chefnogi gofalwyr mewn lleoliadau addysgol mor fuan â phosibl. Gwn fod cydweithwyr yn y maes addysg wedi hyrwyddo’r canllawiau rhagorol hyn i bob ysgol yng Nghymru, a byddwn yn hapus i’w rannu â chyd-Aelodau.
Ac ar ben hynny, rwyf wedi cymeradwyo cyllid pellach eleni i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gefnogi ymchwil i lefel y cymorth sydd ar gael ar gyfer gwella llesiant gofalwyr ifanc yn y gymuned. Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rhoi argymhellion i mi ynglŷn â sut i gefnogi llesiant gofalwyr ifanc ymhellach, ac edrychaf ymlaen at eu cael ac at ystyried y ffordd orau i ymateb.
Rwy’n bwriadu ysgogi cymorth pellach i ofalwyr ifanc drwy ein cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer gofalwyr. Fy null o ddatblygu’r cynllun yw gweithio mewn partneriaeth, gwrando ar yr hyn y mae gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, yn dweud wrthyf y maent ei angen. Mae llawer o sefydliadau rhagorol wedi’u crybwyll yn ystod y ddadl heddiw, ac rwyf am glywed ganddynt a chan y gofalwyr ifanc sydd wedi ymuno â ni yn y ddadl heddiw. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â grŵp ysbrydoledig o ofalwyr ifanc i glywed am eu bywydau, eu problemau a’u dyheadau, ac roedd nifer ohonynt yn teimlo y byddai cardiau adnabod gofalwyr ifanc yn helpu. Rwyf wedi ymrwymo’n gyhoeddus i archwilio’r posibilrwydd o ddarparu cardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc ac wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ddatblygu fframwaith cenedlaethol i gynnal gweithrediad cardiau adnabod gofalwyr ifanc. Bydd y fframwaith hwn yn darparu’r sail ar gyfer ehangu cardiau adnabod gofalwyr ifanc ledled Cymru. Ac er mwyn i ni fod yn glir, mewn ateb i gwestiwn David Melding, rwy’n edrych arno ar lefel genedlaethol, yn hytrach na’i adael i awdurdodau lleol, oherwydd ar ôl gwneud hynny hyd at y pwynt hwn—nid yw wedi rhoi’r math o ganlyniadau y byddem wedi hoffi eu gweld.
Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, gan weithio gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru, wedi cynhyrchu ‘Canllaw i Ofalwyr ar Reoli Meddyginiaeth’ ar gyfer oedolion a gofalwyr ifanc. Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr hefyd yn gweithio gyda’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu i hwyluso lleoliadau i fyfyrwyr fferylliaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o ofalwyr. I fod yn glir, mae gofalwyr ifanc eisoes yn gallu casglu presgripsiynau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt, ond rwy’n cytuno bod yn rhaid i ni godi ymwybyddiaeth o hyn ymysg gofalwyr eu hunain ac ymysg gweithwyr fferyllol proffesiynol, a dyna pam fod ein canllawiau newydd mor bwysig.
Mae ein gofalwyr yn darparu gofal dihunan ar gyfer eu teulu a’u hanwyliaid, ddydd ar ôl dydd, ac rwy’n cydnabod y straen y mae hyn yn gallu ei achosi. Mae darpariaeth seibiant yn bwysig i bob gofalwr, ond mae’n rhaid i ofalwyr ifanc allu cael mynediad at y gwasanaethau hyn hefyd. Rwy’n disgwyl argymhellion Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ynglŷn ag ehangu ein darpariaeth gofal seibiant byr a gofal amgen yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu dull cenedlaethol o weithredu gofal seibiant, gan gyflawni ymrwymiad maniffesto pwysig, ac nid yw’n bosibl gwneud hyn heb gymorth ariannol.
Ym mis Mai, cyhoeddais £3 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu darparu seibiant i ofalwyr yng Nghymru yn well, a bydd hyn yn cynnwys ac o fudd i ofalwyr ifanc. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i rannu gyda’r Aelodau fy mod hefyd wedi ymrwymo i sefydlu grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr, a bydd hyn yn sicrhau bod gofalwyr yn cael cydnabyddiaeth gyfartal â phobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu. Rwy’n disgwyl i’r grŵp hwnnw chwarae rhan allweddol yn monitro cynnydd ein darpariaeth ar gyfer gofalwyr. I gydnabod yr heriau penodol sy’n wynebu gofalwyr ifanc, ac oherwydd y safbwynt unigryw a fydd ganddynt, byddaf hefyd yn gwahodd gofalwyr ifanc i gael eu cynrychioli fel aelodau o’r grŵp hwn.
Felly, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r Aelodau ynglŷn â’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddeall a diwallu anghenion gofalwyr ifanc yng Nghymru. Rwy’n gobeithio ei fod yn dangos bod gwaith cyffrous ar y gweill mewn nifer o feysydd, drwy ddeddfwriaeth, polisi a phenderfyniadau cyllido, sy’n mynd i’r afael â, ond heb ei gyfyngu i faterion yn cynnwys addysg, adnabod a seibiant.
Rwyf am orffen drwy ddweud y byddwn yn awyddus iawn i gyfarfod â Bethan Jenkins neu unrhyw Aelod o’r Cynulliad a hoffai helpu i lunio’r camau nesaf ar gyfer gofalwyr ifanc, yn enwedig ar hyn o bryd drwy’r gwaith newydd a phwysig ar ein strategaeth gofalwyr ar gyfer Cymru. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn ystyried pob un o’r pwyntiau pwysig a godwyd yn ystod y ddadl hon wrth i ni symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.