Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Dyma ni felly’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Mae’r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Bethan Jenkins. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Bethan Jenkins. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, 16 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, fe dderbyniwyd y cynnig.