Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ystod blwyddyn 2015-16, roedd dros 8,300 o blant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu bod mwy nag un o bob 10 o'r holl blant yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn byw yn fy mwrdeistref sirol i. Mae gwaith ymchwil newydd gan Ymddiriedolaeth Trussell yn awgrymu, ac rwy’n dyfynnu, mae rhieni unigol a'u plant yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio banciau bwyd, sy’n awgrymu, hyd yn oed o'u cymharu â'r boblogaeth incwm isel, bod rhieni unigol a'u plant yn arbennig o agored i fod angen banciau bwyd.
Mae hon yn broblem arbennig mewn teuluoedd mwy ac yn cael ei gwaethygu’n sylweddol yn ystod gwyliau'r ysgol, pan nad oes unrhyw brydau ysgol am ddim ar gael i’r teuluoedd hyn. Rydym ni’n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer system estynedig o glybiau cinio a hwyl, felly hoffwn i ofyn: sut mae’r paratoadau’n mynd cyn gwyliau’r ysgol, sy’n dechrau ymhen dim ond ychydig wythnosau, a pha werthusiad o’r cynllun ar gyfer mynd i'r afael â phlant llwglyd yn ystod y gwyliau fydd yn cael ei gynnal?