Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Prif Weinidog, mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy’n cymeradwyo cyhoeddiad yr Ysgrifennydd dros Addysg, yn gynharach eleni, i dreialu’r clybiau cinio a hwyl hyn ar gyfer ysgolion cynradd yn gyntaf. Ond roeddwn i’n meddwl tybed a yw'n mynd i fod yn gynllun y byddwch chi’n ei ystyried ar gyfer y sector ysgolion uwchradd, oherwydd mae helpu'r rhai sy'n cael cinio ysgol am ddim, o ran maethiad iach, bwyta’n iach, a rhaglen iach o weithgareddau, cyrhaeddiad addysgol—mae’r holl bethau hyn yn bwysig dros ben. Mae gan y grŵp hwnnw rywfaint o’r cyrhaeddiad addysgol gwaethaf o unrhyw rai sy'n mynd i'r ysgol, rhywfaint ohono oherwydd nad yw’r gwyliau ysgol ei hunan yn ffafriol iawn i barhau eu patrwm o ddysgu. Felly, mae hwn yn faes, rwy’n credu, y mae angen ei ystyried yn ofalus.