Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Prif Weinidog, mae eich plaid wedi bod yn rhedeg Llywodraeth Cymru ers 18 mlynedd, ac eto mae plant yn llwglyd o hyd—mae 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Onid ydych chi’n credu ei bod yn warthus bod yn rhaid i aelod o'ch plaid eich hun sefyll ar ei draed yn y fan yma a gofyn i chi am blant sy’n llwglyd yng nghwm Cynon, pan eich bod chi wedi cael cymaint o amser i wneud rhywbeth ynghylch hynny? Pam ydych chi wedi methu? Pam ydych chi wedi methu?