Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Mae Joyce Watson yn iawn wrth ddweud pa mor bwysig yw taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn wir, amlygwyd hynny yn glir iawn yn ymgyrch Shelter Cymru, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi clywed am yr wythnos ddiwethaf—yr ymgyrch Waste Not Want Not—yn tynnu sylw at eu pryderon a chodi ymwybyddiaeth y gallai pobl fod â hawl i help ychwanegol trwy'r cynllun taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn amlwg, o'r cychwyn cyntaf, o ran fy ymateb i, mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw’r taliadau tai yn ôl disgresiwn wedi eu datganoli ac maent yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru, rydym wedi cyflwyno canllawiau gwell, gan sicrhau dull mwy cyson o ymdrin â cheisiadau, gan dargedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac wrth gwrs, rhaid i hynny gynnwys dealltwriaeth—. Yn amlwg, mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfle yma i ledaenu'r arfer da gan yr awdurdodau hynny y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ato, a oedd nid yn unig yn gwario at y terfyn, ond rai ohonynt yn gwario mwy ac yn penderfynu bod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, fel Caerdydd a Bro Morgannwg.