Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Wel, rwy’n credu bod yr Aelod yn amlwg yn gwrando ar ei etholwr lleol, sef busnes, ac yn ei gynrychioli. Ond rwy’n credu eich bod wedi egluro, yn wir, o ran adrodd am y profiad y mae’r busnes hwnnw, etholwr lleol, wedi’i gael, pam ei fod ef neu hi wedi cael ei hun yn y sefyllfa honno. Mae hwn yn fater i'r awdurdod lleol, ac mae'n fater, nid yn unig o ran rheoleiddio a sail statudol, mae'n fater o ddisgresiwn ar sawl achlysur, ond hefyd o ran cydymffurfiaeth. Ac mae angen i fusnesau gydymffurfio.