3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:44, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan adolygiad Taylor o weithwyr yn yr economi gig ac rwy'n credu ei fod yn deg dweud bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn dipyn o siom. Does dim byd concrid ar ddileu contractau dim oriau. Mae hawl i ofyn am oriau gwarantedig gan gyflogwr, ond, wrth gwrs, mewn oes lle mae'n rhaid i weithwyr dalu £1,200 i fynd i dribiwnlys, mae'n anodd iawn gweld sut y mae hawliau bondigrybwyll o’r fath yn mynd i gael eu gorfodi. Ond pryder arbennig yw'r awgrym y dylid cyflwyno categori newydd o weithiwr yng nghyfraith cyflogaeth y DU—contractwr dibynnol. Mae hyn yn edrych fel canlyniad pledio arbennig gan y cwmnïau hynny nad ydynt yn hoffi talu trethi ac nad ydynt yn hoff iawn o dalu'r isafswm cyflog chwaith. Tybed a allai'r categori contractwr dibynnol fod yn rhywbeth sy'n cynyddu dros y blynyddoedd, yn enwedig wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac wrth i hawliau gweithwyr gael eu disodli gan fframweithiau’r DU. A allem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru fel mater o frys, yn enwedig o gofio bod y wlad hon yn awr yn gynyddol yn dod yn brifddinas y DU o ran gweithwyr sy’n cael eu hecsbloetio?