Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch. Mae Darren Millar wedi cryfhau'r achos dros ganolbwyntio ar y triongl Evo a'r ffordd y mae wedi cael ei hyrwyddo. Yn wir, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd—ac y maent wedi gwneud hynny heddiw—dynnu sylw at y peryglon, a gallwch hefyd godi'r pwyntiau hynny eich hunain gyda chylchgronau sy’n ei hyrwyddo ac, yn wir, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond, GanBwyll—roedd Ysgrifennydd y Cabinet allan yno yn y gwanwyn gyda GanBwyll, ac mae'n glir iawn yn uchel ar ei agenda.