Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth cyn diwedd y tymor, gan fod dim amser am drafodaethau neu ddadleuon bellach? Yn gyntaf oll, pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o bwysigrwydd Euratom ynglŷn â’r gwaith sydd ar gael yng Nghymru? Yn benodol, wrth gwrs, mae gennym ni ddau safle niwclear, ond mae hefyd gwastraff niwclear yn cael ei storio mewn safleoedd yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae defnydd o ddeunydd niwclear tu fewn i’r gwasanaeth iechyd hefyd ynghlwm â’r rheoliadau sy’n cael eu trafod a’u cytuno ar lefel Ewropeaidd drwy ddulliau Euratom. Roedd y llythyr i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, llythyr enwog cymal 50, yn sôn am dynnu allan o Euratom hefyd, er bod y cytundeb hwnnw yn hŷn o lawer na’r cytundeb i fynd i mewn i’r Undeb Ewropeaidd. Erbyn hyn, rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei safiad yn glir ynglŷn â’r asesiad y mae hi wedi ei wneud o berthynas Euratom i’n gwaith ni yng Nghymru a sut mae parhau yn y broses yna wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
A’r ail ddatganiad yr hoffwn i ei glywed, yn enwedig gyda’r sioe amaethyddol ar y gorwel—wel, gyda llawer o sioeau amaethyddol ar y gorwel, ond y Sioe Fawr yn benodol mewn rhyw bythefnos—yw datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â phryd ydym ni’n debygol o weld y cynllun datblygu gwledig yn agor ar gyfer ffermio a throsi i ffermio organig. Ni, nawr, bellach, yng Nghymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Gyfunol sydd heb gynllun trosi i ffermio organig mewn lle. Mae cynnydd mewn ffermio organig a gwerthiant organig yn 7 y cant y flwyddyn. Mae pob punt sy’n cael ei buddsoddi o arian cyhoeddus yn creu elw o £21 o fasnach yn y maes organig, ac mae’n edrych yn chwithig iawn i mi ein bod ni angen gwario’r arian sydd gennym ni o hyd cyn inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a bod y Llywodraeth wedi bod yn eistedd ar eu dwylo cyn belled ag y mae agor cynllun ar gyfer ffermio organig yn y cwestiwn. Nid wyf i eisiau i hynny barhau dros yr haf heb ateb ar ryw fath o ganllawiau pendant gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â phryd fydd y cynllun hwn yn cael ei agor yma yng Nghymru.