6. 5. Datganiad: Strategaeth y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:20, 11 Gorffennaf 2017

Rwy’n cytuno â chi, Dai, ac roeddwn i eisiau gwneud ‘exactly’ y pwynt hwnnw yn fy natganiad llafar i, pan oeddwn i’n sôn amboutu’r iaith Gymraeg fel iaith Brydeinig, a’n profiad Cymraeg fel profiad Prydeinig. Mae’n hynod bwysig ein bod ni nid yn unig yn estyn mas y tu hwnt i’n ffiniau, ond ein bod ni i gyd yn cyd-ddeall ein gilydd fel Prydeinwyr, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth hollbwysig a rhywbeth mi fyddem ni’n parhau i’w bwysleisio.