Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Gwelais i’r dystiolaeth gan Fudiad Meithrin i’r pwyllgor—tystiolaeth arbennig o dda. Mi oedd honno, wrth gwrs, yn sôn am y targed 2050, ac mi fuasai’n rhaid cael 600 o gylchoedd meithrin erbyn 2050. Y rhif sydd gyda ni yw 150 ychwanegol erbyn 2031. Felly, mae gyda ni rywbeth o gwmpas 450 ar hyn o bryd, ac mae hynny’n mynd â ni lan at 500 erbyn 2031. Felly, nid ydw i’n meddwl ein bod ni’n bell i ffwrdd, achos mi fydd rhai cylchoedd, wrth gwrs, yn uno gyda’i gilydd, neu bydd rhai yn tyfu, ac felly mae’n ‘fluid’ yn y ffordd y mae’n cael ei ddatblygu. Y peth pwysig, ac rydym ni’n cyd-fynd â Mudiad Meithrin ar hyn, yw bod gan blant, yn gynnar iawn yn eu bywydau nhw, yr un cyfle i fynychu cylchoedd Cymraeg a dwyieithog ar draws y wlad, a’r cyfle i ddechrau dysgu’r Gymraeg mor gynnar â phosibl yn ystod eu haddysg nhw.
Pan fo’n dod at weithlu’r Cymoedd, rydw i eisiau sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fywyd y Cymoedd eto. Roedd yn ffantastig i mi yn bersonol ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn fy etholaeth i a gwrando ar y plant yn siarad Cymraeg ag acen Tredegar, acen Glyn Ebwy, acen Brynmawr, a dechrau adfer yr iaith Gymraeg mewn ardal lle mae’r Gymraeg wedi bod ar goll ers canrif. A dyna lle’r ydym eisiau gweld—. Rwy’n cofio cyfarfod â chi yn Nhŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe lle mae gyda ni gyfle arall i adfer yr iaith Gymraeg mewn cymunedau lle mae wedi colli tir. Ac rydw i’n mawr obeithio, yn y gwaith rŷm ni’n ei wneud gyda gweithlu’r Cymoedd—rydym ni’n canolbwyntio ar yr ochr economaidd ar hyn o bryd, ond, fel rydym ni’n symud ymlaen dros y blynyddoedd nesaf, rydw i’n mawr obeithio hefyd y bydd yna bwyslais newydd ar y Gymraeg yn y Cymoedd i sicrhau bod y Cymoedd yn ardal lle mae’r Gymraeg yn gryf unwaith eto.