Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Mae’r strategaeth yn pwysleisio’r dimensiwn rhanbarthol o ran datblygiad economaidd a’i bwysigrwydd yn arbennig i’r bröydd Cymraeg traddodiadol, oherwydd eu tebygrwydd yn economaidd ac o ran y ddemograffeg. Eto, ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu map o’r rhanbarthau economaidd sy’n rhoi’r ardaloedd Cymraeg yna mewn gydag ardaloedd mwyafrifol Saesneg eu hiaith. A ydy’r Llywodraeth o blaid creu rhanbarth economaidd i’r gorllewin Cymraeg fel ein bod ni’n gallu gwireddu ar y potensial sydd yna fel sy’n cael ei amlygu yn y strategaeth?