Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 8:02 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ganiatáu i'r pwyllgor, wrth iddynt gasglu tystiolaeth yn ystod Cyfnod 1, gymryd safbwyntiau gan gyfranwyr ar yr ymgynghoriad yr oedd y Llywodraeth wedi’i gynnal ar y pryd ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth, ac am y gefnogaeth glir iawn a roddodd y pwyllgor yn eu hadroddiad Cyfnod 1 i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w gwneud yn glir, yma yng Nghymru, y byddai’r amgylchiadau sy'n bodoli heddiw lle nad yw'n bosibl defnyddio gweithwyr asiantaeth i dorri streic—y byddai’r sefyllfa honno'n parhau yma yng Nghymru.
Gadewch imi, ar gyfer y cofnod, glirio’r pwynt a gododd Joyce Watson: ni fydd darpariaethau'r Bil hwn yn effeithio ar drefniadau fel trefniadau banc nyrsio, lle mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn darparu gwasanaeth dros dro o ganlyniad i absenoldebau staff, prinder staff neu swyddi gwag tymor byr. Nid gweithwyr asiantaeth yw’r bobl hynny, ac ni fyddai’r ddarpariaeth hon yn effeithio arnynt.
Gadewch imi fod yn glir hefyd, Llywydd, nad wyf yn cytuno â'r gosodiad a roddodd cynigydd y gwelliant hwn i'r Cynulliad wrth agor y grŵp hwn o welliannau. Rwy’n credu mai’r hyn a glywais Janet Finch-Saunders yn ei ddweud oedd y byddai’r Cynulliad, drwy basio’r grŵp hwn o welliannau, yn cynnig rhyddid i gyflogwyr i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod streic. Nawr, gadewch imi fod yn glir, pe byddai’r gwelliannau hyn yn cael eu pasio, byddai'n dileu adran 2, rhan allweddol o'r Bil. Byddai'n mynd yn groes i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd. Byddai'n gwrthdroi barn glir y pwyllgor yng Nghyfnod 2, ond ni fyddai'n caniatáu i awdurdodau Cymru ddefnyddio gweithwyr asiantaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol. Ac mae hynny oherwydd, er bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar gael gwared ar reoliad 7 Rheoliadau Ymddygiad Busnesau Cyflogaeth ac Asiantaethau Cyflogaeth 2003, nid ydynt wedi gweithredu ar yr ymgynghoriad hwnnw. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod y cynigydd yn egluro’r mater hwn er budd y Cynulliad y prynhawn yma.
Pe câi’r newidiadau hyn eu pasio, byddai safbwynt y gyfraith yn aros fel y mae wedi bod ers nifer o ddegawdau, gan fod rheoliad 7 yn dal i fod ar waith. Felly, ni fyddai pasio’r gwelliannau hyn, yn fy marn i, yn rhoi’r rhyddid i gyflogwyr ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod streic yma yng Nghymru. Byddai'r sefyllfa bresennol yn parhau—y sefyllfa bresennol sydd wedi bod yn ddigon da i Lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan, a'r sefyllfa bresennol y dangosodd ein hymgynghoriad yma yng Nghymru bod undebau llafur a chyflogwyr yn awyddus i’w weld yn cael ei chadw.