<p>Grŵp 4: Gwaharddiad ar Ddefnyddio Gweithwyr Dros Dro i Gymryd Lle Staff yn Ystod Gweithredu Diwydiannol (Gwelliannau 6, 7)</p>

Part of 9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 8:06 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 8:06, 11 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wrth gwrs, mae'n dal i fod yn wir bod gweithredu diwydiannol mewn rhai sectorau yn cael effaith ehangach ar aelodau o'r cyhoedd sydd yn anghymesur ac yn annheg. Gall streiciau atal pobl rhag cyrraedd y gwaith ac ennill eu bywoliaeth eu hunain ac atal busnesau rhag rheoli eu gweithluoedd yn effeithiol. Er enghraifft, bydd streiciau mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel addysg yn golygu bod angen i rieni rhai plant oedran ysgol ofalu am eu plant yn hytrach na mynd i'r gwaith oherwydd y byddai’n amhosibl i rai ysgolion gyflawni eu dyletswydd gofal tuag at eu disgyblion yn ystod y streic. Byddai hyn hefyd yn cael effaith negyddol ar rai o gyflogwyr y rhieni yr effeithir arnynt, effaith ar eu gweithlu a’u cynhyrchiant. Yn yr un modd, pe byddai gweithwyr post yn mynd ar streic, byddai unigolion a chyflogwyr sy'n dibynnu ar wasanaethau post yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd yr ôl-groniad mawr o ddanfoniadau a fyddai’n digwydd. Bydd y Bil hwn, heb ei ddiwygio, yn gwrthod y cyfle i’r sector recriwtio i helpu cyflogwyr i gyfyngu ar effaith streic ar yr economi a’r gymdeithas ehangach drwy sicrhau y gall busnesau barhau i weithredu i ryw raddau.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys asiantaethau cyflogaeth, busnesau cyflogaeth, cyflogwyr, darparwyr llafur, cyrff masnach, gweithwyr, unigolion sy'n defnyddio'r sector recriwtio i ddod o hyd i waith, a'r cyhoedd; mae gweithredu diwydiannol yn effeithio ar y rhain i gyd. Mae'r adborth hwn yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a chaiff ei ystyried yng nghyd-destun deddfwriaeth a buddiannau ehangach cysylltiadau diwydiannol. Rhywbeth modern, dynamig—