<p>Confensiwn Pysgodfeydd Llundain 1964</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:21, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ofal arferol yn y materion hyn. Fodd bynnag, efallai y gallaf ei demtio drwy ddweud nad wyf yn credu bod unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol, ond mae yna oblygiadau gwleidyddol cryf i benderfyniad Michael Gove. Fy nealltwriaeth i, mewn gwirionedd, yw bod confensiwn pysgodfeydd Llundain, yn ôl pob tebyg, yn cael ei oddiweddyd gan ein perthynas â’r polisi pysgodfeydd cyffredin a’r hyn sydd wedi digwydd ers hynny o ran ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Ond yr hyn sy’n fy mhoeni yw bod gennym Michael Gove yn penderfynu tynnu’n ôl, yn symbolaidd, o rwymedigaeth ryngwladol sy’n ymwneud â mater datganoledig, felly efallai y gallaf ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a yw’n cytuno â mi fod pysgodfeydd wedi cael eu datganoli, mai Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am warchod pysgodfeydd yng Nghymru, ac am yr hyn a fydd yn digwydd pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran cwotâu, rhannu cwotâu, a thrafodaethau ynglŷn â hynny. Ac yn sgil y ffaith fod Boris Johnson wedi dweud wrth fy nghyd-Aelod Jonathan Edwards ddoe y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn penderfynu ar y materion hyn yn awr, a yw o’r farn felly y bydd Cymru’n gallu arfer feto mewn perthynas â chamau ysgeler pellach gan Michael Gove?