<p>Confensiwn Pysgodfeydd Llundain 1964</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:24, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n wir, wrth gwrs, mai’r Deyrnas Unedig yw llofnodwr cytundeb 1964, ac felly Gweinidog y DU a fydd yn gwneud y penderfyniad i dynnu’n ôl ohono, ond rwy’n cytuno â goblygiadau cwestiwn Simon Thomas, fod pysgota’n fater datganoledig, ac felly y dylai fod rhywfaint o ystyriaeth wedi’i rhoi i safbwyntiau’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru. Ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn arddel y safbwynt y bydd adennill ein dyfroedd, neu reolaeth dros y terfyn 6 i 12 milltir, yn hanfodol bwysig i ddatblygiad diwydiant pysgota Cymru yn y dyfodol, a byddai braidd yn chwerthinllyd pe baem yn cael rheolaeth wedi’i dychwelyd i weddill y Deyrnas Unedig, ond nid yn achos Cymru. Sut y byddai hynny’n gweithio, nid wyf yn gwybod, oherwydd byddai pysgotwyr yr UE yn parhau i fod â hawl i ddyfroedd Cymru i’r graddau hynny, a byddai hynny’n sicr yn milwrio’n sylweddol yn erbyn y manteision i bysgotwyr Cymru o allu cael parth unigryw, a fyddai fel arall yn cael ei beryglu pe baem yn parhau i fod yn aelod o gytundeb 1964.