Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Wrth gwrs, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cael llwyddiant yn eich cyfarfod yfory ac efallai yn defnyddio’r cyfle olaf i ddarbwyllo’r Adran Gwaith a Phensiynau i wyrdroi’r penderfyniad, yn enwedig yng nghyd-destun symud swyddi oddi ar ganol tref Llanelli, sydd yn mynd i gael effaith economaidd ddybryd iawn ar dref sydd yn sigledig yn economaidd, fel rŷm ni i gyd yn gwybod.
Rwy’n ddiolchgar eich bod chi wedi ateb, y bore yma, cwestiwn ysgrifenedig, ac yn benodol hoffwn i droi at y ffaith bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud na fydd neb yn gorfod colli swydd oherwydd y penderfyniad yma yn Llanelli, ond yn cael eu hadleoli. Ond byddwch chi’n gwybod o’r trafodaethau mae’n siŵr eu bod nhw yn sôn am adleoli i lefydd fel Doc Penfro a Chaerdydd, ac mae’n gwbl amhosibl, gyda chynifer o fenywod, pobl gyda chyfrifoldebau gofal, pobl gyda phlant ifanc a gyda rhieni mewn oed i ystyried symud swyddi o ganol Llanelli i weithio mewn ardaloedd mor wasgaredig. Felly, yn benodol, pan fyddwch chi’n cwrdd â Damian Hinds yfory, a fyddwch chi’n gofyn yn fwy penodol am warant ganddo fe os nad oes rhywun yn medru adleoli oherwydd y cyfrifoldebau sydd gyda nhw o ran gofal plant neu oherwydd y sefyllfa bersonol sydd gyda nhw, na fydd yna ddiswyddo gorfodol yn digwydd? Iawn, os yw pobl yn moyn cael eu diswyddo yn wirfoddol, mae hynny’n fater iddyn nhw. Ond a fedrwch chi gael ymrwymiad na fydd diswyddo gorfodol, ac felly y bydd pobl yn medru cadw eu swyddi?