Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r sefyllfa yn Coilcolor a’r bygythiad i swyddi dros 40 o weithwyr a gyflogir yno. Rwy’n deall bod y sefyllfa hon wedi codi o anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a Coilcolor dros daliad iawndal ar ôl i adeilad y cwmni ddioddef llifogydd yn 2016. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr yn mynnu bod taliad iawndal wedi cael ei addo, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwadu hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymyrryd yn bersonol i achub y swyddi yn Coilcolor, ac a wnaiff gytuno i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn i weld sut y gallai’r anghydfod hwn fod wedi codi a gwneud datganiad fel mater o frys, os gwelwch yn dda?