6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canolfan Rhewmatoleg Bediatrig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:37, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn mynd i gyffwrdd â pheth o hynny yn rhan nesaf fy nghyfraniad, ond fe gyfeiriaf yn ôl at rai o’r sgyrsiau a gawsom ddoe gyda’r datganiad adolygu seneddol, a’r cyfeiriad at yr hyn a allai ac a ddylai fod yn lleol, beth yw cyfrifoldeb byrddau iechyd yn unigol ac wrth weithredu gyda’i gilydd, a lle y dylai fod llaw arweiniol ganolog yn cyfarwyddo ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwasanaeth wneud rhywbeth. Byddai hynny’n cynnwys, yn y maes hwn, y ddadl a’r drafodaeth ynghylch nifer y canolfannau arbenigol y gallem neu y dylem eu cael, beth yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny, ond hefyd y model gwasanaeth ehangach o’r cymunedol at yr arbenigol. Mae hynny’n cynnwys diagnosis, ymwybyddiaeth a hyfforddiant, ond hefyd faint o’r gwasanaeth hwnnw y gallech ac y dylech ei ddarparu’n lleol ac yn nes at adref, ac yna derbyn, pa bryd bynnag y bydd gennych ganolfan arbenigol, y bydd pobl yn teithio. Boed wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin neu ble bynnag y bydd canolfan arbenigol, i lawer o bobl bydd yn galw am deithio pellter sylweddol i gyrraedd y ganolfan arbenigol honno er mwyn cael y gofal y gallent ac y dylent ei gael o fewn y lleoliad hwnnw’n unig. Ar hyn o bryd, o ystyried sefyllfa Caerdydd—ac mae nifer o’r Aelodau wedi gwneud cais heddiw i Gaerdydd fod yn ganolfan rhewmatoleg bediatrig ffurfiol gyda thîm amlddisgyblaethol—byddai hynny’n dal i’w gwneud yn ofynnol i bobl deithio pellter hir, ac i gael y grŵp cywir o staff ar waith i ddarparu’r gofal.

Rwy’n credu bod yna her yma ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yng Nghymru, comisiynu gwasanaethau ar draws y ffin yn Lloegr lle mae hynny’n angenrheidiol, neu os mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Ond hefyd, buaswn yn dal i fod yn awyddus i gael sgwrs fwy agored gyda chydweithwyr yn Lloegr ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yng Nghymru a fyddai hefyd yn cynnwys ac yn ateb anghenion cleifion sy’n byw ar hyn o bryd yn Lloegr. Hefyd, mae rhai llifoedd sydd eisoes yn bodoli a allai ac a ddylai fodoli mewn gwasanaethau mwy arbenigol yn fy marn i. Ond rwy’n credu, yn hytrach na fy mod i’n penderfynu ar y model darparu gwasanaeth mewn un ddadl heddiw, mae’n bwysig ein bod yn gofalu am yr angen i ddatrys y cwestiynau am y model gwasanaeth—ynglŷn â’r cydbwysedd rhwng darpariaeth gymunedol ac arbenigol. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cwestiynau a godwyd am y pwyntiau hynny ac am y tîm amlddisgyblaethol arbenigol rwy’n cydnabod nad oes gennym mohono.

Felly, byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol i’r adolygiad PGIAC, a byddaf wedyn naill ai’n dewis gyda’r gwasanaeth—neu rwy’n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn dewis drosto’i hun, mewn gwirionedd, am fy mod yn credu bod hwn yn faes lle na ddylai fod yn rhaid wrth gyfarwyddyd canolog gennyf fi. Ond rwy’n gobeithio, wrth nodi y byddaf o ddifrif ynglŷn â’r argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth, y bydd hynny’n bodloni’r prawf a osodwyd ar fy nghyfer gan Hefin David. Rwy’n hapus i roi arwydd clir ynglŷn â chyfeiriad, ac wrth gwrs byddaf yn adrodd yn ôl wrth Aelodau’r Cynulliad maes o law.