Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser i allu ymateb i’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. Rydw i’n llongyfarch David Melding yn y lle cyntaf am drefnu’r holl beth, a hefyd am drefnu’r digwydd yna bythefnos yn ôl yn adeilad y Pierhead, lle y gwnaethom ni gyfarfod rhai teuluoedd yng nghanol eu dioddefaint.
Wrth gwrs, fel meddyg teulu ers dros 35 o flynyddoedd yn Abertawe, dros y blynyddoedd rwyf wedi cyfarfod efo sawl teulu sydd efo person ifanc yn eu plith sydd efo crydcymalau—arthritis—yn ifanc iawn. Mae’n gallu bod yn gyflwr, fel rydym wedi clywed, difrifol iawn. Mae anhwylderau sydd yn weddol anghyffredin, fel hwn, ond yn ddifrifol eu heffaith yn teilyngu cael eu trin mewn canolfan arbenigol rhanbarthol, achos maen nhw’n gyflyrau anghyffredin gyda thriniaethau anghyffredin, lle mae pob arbenigwr sydd yn delio efo’r clefyd yna wedi cael ei leoli yn yr un un lle—canolfan amlddisgyblaethol yn wir syniad y gair, felly.
Mae’r holl dystiolaeth feddygol sydd wedi dod i law dros y blynyddoedd yn cefnogi datblygiad o’r fath i gael y safon orau o driniaeth i’r cyflyrau anghyffredin yma. Rydym wedi clywed y dadleuon cryf o blaid sefydlu gwasanaeth arbenigol crydcymalau i blant, ac rwy’n cytuno’n gryf, ac mae safon arbennig y ddadl y prynhawn yma yn teilyngu hynny hefyd.
Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod efo arbenigwyr yn y maes a hefyd wedi trafod efo theuluoedd ynglŷn â’r angen—teuluoedd fel Lisa Evans a’i merch Bethan, yn fy rhanbarth i, sydd hefyd gyda’r cyflwr yma—yr angen i sefydlu gwasanaeth arbenigol yn y maes.
I droi at y siaradwyr, rwy’n llongyfarch David Melding am amlinellu yn ei ffordd aeddfed arferol y pwyntiau o blaid creu gwasanaeth arbenigol crydcymalau i blant, a hefyd yn olrhain hanes plentyn hefyd. Roedd mwy nag un tro, rwy’n credu, i Aimee gael ei chrybwyll yn y ddadl yma. A hefyd Julie Morgan, gydag eto hanes plentyn arall, ac yn pwysleisio’r problemau sydd yn gallu digwydd efo’r llygaid a’r golwg yn ogystal—nid jest mater esgyrn a chymalau ydy hyn—a phwysleisio’r angen am driniaeth gynnar, i osgoi’r llid o’r crydcymalau sydd yn dinistrio esgyrn ac yn dinistrio’r cymalau yn y tymor hir, ac wrth gwrs yn methu cryn dipyn o ysgol ar hyd y ffordd.
Rwyf hefyd yn llongyfarch Angela Burns ar ei chyfraniad hithau hefyd yn olrhain profiadau’r sawl sydd eto yn dioddef efo crydcymalau, ac yn pwysleisio’r elfen yma fod angen tîm amlddisgyblaethol—ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, a seicotherapyddion hefyd. Ac yn yr un modd, Rhun eto yn sôn am brofiad unigol teulu a hefyd y pwysigrwydd o ddatblygu’r arbenigedd yma o fewn ffiniau Cymru. Rydym yn gallu ei wneud e.
Ac wrth gwrs, rwyf hefyd yn diolch i Caroline Jones, Joyce Watson, Hefin David a Rhianon Passmore am eu cyfraniadau doeth ac aeddfed y prynhawn yma—a hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet. Cefndir hyn i gyd, yn naturiol, fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet olrhain, ydy adroddiad Ruth Hussey, yr adroddiad interim a ddaeth allan ddoe. Mae yna her sylweddol i’r gwasanaeth iechyd yn fanna i newid.
Mae yna hefyd her sylweddol i bob un ohonom ni i newid. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon rhagor jest i hanner meddwl bod rhywbeth yn syniad da ac wedyn ei arallgyfeirio fe at ryw gomisiwn neu rywbeth i ddod i fyny efo ateb terfynol efallai mewn rhyw flynyddoedd i ddod. Mae’n rhaid inni ddechrau gweithredu yn awr. Dyna beth mae adroddiad interim Ruth Hussey yn pwysleisio: yr angen i wneud penderfyniadau pellgyrhaeddol nawr, gyda’r dewrder i’w gweithredu nhw.
Rydym wedi clywed oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet beth mae WHSSC yn ei wneud a phwysigrwydd beth mae’r cleifion yn ei feddwl o’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Wel, rydym i gyd wedi clywed beth mae’r cleifion yn ei feddwl am y gwasanaeth ar hyn o bryd. Maen nhw eisiau gwasanaeth arbenigol i blant efo crydcymalau nawr. Cymru yw’r unig wlad sydd heb y gwasanaeth arbenigol yna. Fe fyddwn i’n pwyso’n daer ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ddod i’r un casgliad ag y mae pawb arall yn dod iddo fo.
Felly, mae angen y newidiadau yma nawr, ar fyrder, ac wrth gwrs, dyna beth mae adroddiad Ruth Hussey yn ei ragweld. Mae yna newid yn gorfod digwydd. Mae pethau’n symud allan o’n hysbytai rhanbarthol ni i’r gymuned—grêt. Byddwn ni’n gwneud mwy yn y gymuned, rydym ni eisiau gwneud mwy yn y gymuned, rydym ni’n teilyngu’r arian i wneud mwy yn y gymuned hefyd, a bydd yna lai o stwff sy’n arferol, felly, yn cael ei wneud yn ein DGHs ni. Ond mae’n dal i fod angen canolfannau arbenigol trydyddol i wneud y stwff sydd ddim ond yn gallu cael ei wneud yn y canolfannau arbenigol yna. Ie, gwneud mwy yn y gymuned, ond hefyd rhagor o ganolfannau arbenigol yma yng Nghymru i wasanaethu pobl.
Rydym ni wedi clywed y dystiolaeth. Rydym ni wedi clywed o sawl man y prynhawn yma. Rydym ni hefyd wedi clywed y dystiolaeth uniongyrchol oddi wrth gleifion a theuluoedd a’r sawl sydd yn dioddef, a’r amser i weithredu yw nawr. Diolch yn fawr.