Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau? Yn gynharach eleni, cytunodd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Busnes i gyflwyno trothwy newydd ar gyfer deisebau lle byddai unrhyw ddeiseb a gasglodd dros 5,000 o lofnodion yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yma yn y Cyfarfod Llawn. Ar y pryd roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Busnes, a thrwy gyd-ddigwyddiad bach rwyf fi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, bellach yn sefyll yma yn cyflwyno hyn, y ddadl gyntaf ar ddeiseb a gyrhaeddodd y trothwy hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yma heddiw yn cefnogi’r gwelliant arloesol hwn ym mhroses ddeisebau’r Cynulliad, a fydd yn darparu llwybr posibl arall i unrhyw un yng Nghymru ddod â’u syniadau a’u pryderon yn uniongyrchol i’r Siambr. Mae’n enghraifft wych o ddemocratiaeth ar waith. Rydym ni, y Pwyllgor Deisebau, yn gobeithio y byddwn yn derbyn nifer o ddeisebau gyda’r lefel hon o gefnogaeth yn ystod y Cynulliad hwn.
Cafodd y ddeiseb sydd ger ein bron heddiw ei threfnu gan Richard Vaughan ac mae’n ymwneud â’r amddiffyniad a roddir i leoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Roedd y ddeiseb yn agored i’w llofnodi yn ystod mis Ebrill eleni, ac yn yr amser hwnnw, fe’i llofnodwyd gan 5,383 o bobl. Mae’r ddeiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Yn bwysig, mae’n awgrymu dwy ffordd o gyflawni hyn. Yn gyntaf, geilw’r ddeiseb am gyflwyno’r egwyddor cyfrwng newid i gyfraith a chanllawiau cynllunio Cymru. Nod yr egwyddor yw rhoi’r cyfrifoldeb ar ddatblygwyr adeiladau newydd, boed yn rhai preswyl neu fasnachol, i gynllunio mesurau lleihau sŵn digonol os oes busnes sy’n bodoli eisoes megis lleoliad cerddoriaeth gerllaw. Yn ail, geilw’r ddeiseb am roi’r gallu i awdurdodau lleol yng Nghymru gydnabod llefydd fel ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol o fewn y fframwaith cynllunio. Byddai hyn wedyn o bosibl yn effeithio ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol yng nghyffiniau ardaloedd o’r fath.