Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Mae hwn yn ddiwrnod da i ddemocratiaeth yng Nghymru. Ble arall yn y byd y byddai deiseb yn hedfan drwy’r Pwyllgor Deisebau ac yn cyrraedd llawr y ddeddfwrfa o fewn misoedd? Mae pobl sy’n dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda’i gilydd yn gallu creu newid. Hoffwn ddiolch i Richard Vaughan am gychwyn y ddeiseb. Ef, wrth gwrs, oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn Grangetown yn etholiadau diweddar y cyngor, ond mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn arweinydd, felly mae gwarchod lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn bwysig iawn iddo ef yn bersonol. Mae hefyd yn bwysig iawn i lawer o bobl yn ein gwlad, o gofio bod 5,383 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb o fewn dyddiau—o fewn dyddiau.
Mae’r ddadl hon yn amserol iawn hefyd, gan fod lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru yn wynebu bygythiad o gau. Nid problem yng Nghymru’n unig yw hi chwaith, oherwydd nododd Music UK fod 35 y cant o leoliadau cerddoriaeth fyw yn y DU wedi cau yn ystod y degawd diwethaf, a daw’r bygythiadau yn aml gan ddatblygwyr sy’n adeiladu tai newydd yn ymyl lleoliadau cerddoriaeth fyw presennol. Pan fydd y cwynion anochel ynglŷn â sŵn yn dod gan y trigolion newydd, caiff y lleoliad ei orfodi i gau. Mae gennym Coldplay yn y dref heno ac mae cerddoriaeth yn rhan o DNA diwylliannol Cymru. Dyma yw’r mynegiant mwyaf o ddiwylliant poblogaidd sydd i’w gael. Mae mater Stryd Womanby wedi dod â hyn i sylw’r sefydliad hwn o ddifrif gan mai’r lleoliadau llai ar lawr gwlad sydd angen ein sylw, ac sydd angen cymorth gan y Senedd hon yng Nghymru.
Ni allwn gael digwyddiadau mawr heb y lleoliadau annibynnol lle mae cerddorion yn gwneud enw iddynt eu hunain; mae’n rhaid iddynt ddechrau yn y lleoliadau llai. Mae Stryd Womanby wedi gwneud enw iddi’i hun. Mae’n galon cerddoriaeth fyw yn y ddinas hon, a bydd y rhan fwyaf ohonom wedi treulio amser yno’n gwylio bandiau gwych ac yn gwrando ar fandiau gwych yng Nghlwb Ifor Bach ac yn treulio gormod o amser, efallai, yn blasu’r cwrw crefft yn y tafarndai i lawr y lôn.
Mae dau leoliad cerddoriaeth fyw eisoes wedi cau. Mae Dempseys wedi mynd. Mae’r Four Bars Inn, i fyny’r grisiau, wedi mynd. Mae Fuel wedi cael gorchymyn lleihau sŵn, sy’n ddifrifol. Cafodd Floyd’s, a arferai fod rownd y gornel, amser ofnadwy rai blynyddoedd yn ôl gyda lleihau sŵn a dirwyon, ac yn y diwedd, caeodd y busnes yn y lleoliad hwnnw. Mae clwb yno o hyd, ond mae’n rhywbeth gwahanol yn awr—mae’n fusnes gwahanol—ac maent wedi adeiladu fflatiau y drws nesaf i’r clwb presennol, a chwyno wedyn am y sŵn o’r clwb. Mae dau gais cynllunio newydd yn Stryd Womanby sy’n golygu bod dyfodol cerddoriaeth fyw yno dan fygythiad gwirioneddol, felly mae angen i ni weithredu ac mae angen i ni weithredu’n gyflym.
Rwy’n siarad am Gaerdydd oherwydd, yn amlwg, o’r fan honno rwy’n dod, dyna ble rwy’n byw, ond rwy’n gwybod bod hyn yn digwydd ar draws Cymru, ac o’r hyn a glywais, mae’n ymddangos bod gennym gefnogaeth gan bob plaid yma i wneud rhywbeth, ac i amddiffyn cerddoriaeth fyw. Mae’r deisebwyr wedi gofyn am yr egwyddor cyfrwng newid, fel y mae cyd-Aelodau eisoes wedi sôn, er mwyn inni allu diogelu’r lleoliadau hynny. Ac i ddatblygwyr sy’n agor adeiladau newydd, yn adeiladu eiddo newydd, eu cyfrifoldeb hwy fydd gwneud i’r eiddo hwnnw weithio ac nid y busnes sydd yno’n barod.
Mae ‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ hefyd yn bwysig ac mae gwir angen iddo gael ei gydnabod yn y system gynllunio. Rwy’n cefnogi hynny ac mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny, ac mae’n ymddangos yn awr fod Llywodraeth Cymru, o’r diwedd, yn cefnogi hynny hefyd, sy’n galonogol iawn. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn fynd ati i newid deddfwriaeth cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiogelu ein lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd—Stryd Womanby—ond ar hyd a lled Cymru hefyd. A phan gaiff y ddeddfwriaeth ei phasio, rwy’n credu y bydd yn ddiwrnod da iawn i ddemocratiaeth yng Nghymru, felly gadewch i ni ei wneud. Diolch yn fawr.