7. 7. Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:18, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Nodaf delerau’r ddeiseb ac rwy’n gwrando ar y galwadau a wneir i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw a’r economi nos yn well.

Rwyf wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn y ffordd orau â bwriadau ein nodau llesiant. Rwyf hefyd wedi datgan fy mwriad i gynnwys cyfeiriad clir a phenodol i’r egwyddor cyfrwng newid.

Dylai’r system gynllunio fod yn alluogwr effeithiol i’r datblygu sydd ei angen arnom i gefnogi amcanion cenedlaethol, lleol, a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gwarchod bywiogrwydd ardaloedd fel Stryd Womanby, yr ymwelais â hi ddoe gyda fy nghyd-Aelodau Jenny Rathbone a Julie Morgan, a lle y cyfarfûm â nifer o’r ymgyrchwyr. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnig profiad diwylliannol i gwsmeriaid ac yn darparu lle i feithrin creadigrwydd yn y sîn gerddoriaeth ar lawr gwlad. Rwy’n cydnabod y gwahanol heriau sy’n wynebu lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu’r rhain, a lle y gallwn helpu drwy weithredu cadarnhaol, fe fyddwn yn gwneud hynny.

Rwyf wedi gwrando ar y galwadau penodol i gyflwyno cyfeiriad clir at yr egwyddor cyfrwng newid yn ein polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd y newidiadau rwy’n bwriadu eu gwneud yn arfogi awdurdodau cynllunio lleol yn well ac yn rhoi hyder iddynt gymhwyso’r egwyddor hon wrth ystyried datblygiadau newydd.

Mae polisi presennol yn ‘Polisi Cynllunio Cymru’ hefyd yn nodi dau beth pwysig: ni ddylid cyflwyno defnydd newydd mewn ardal heb ystyried natur y gwahanol fathau o ddefnydd presennol, a gall awdurdodau cynllunio lleol ystyried cydweddoldeb y gwahanol fathau o ddefnydd mewn ardaloedd a rhoi diogelwch priodol lle maent yn ystyried bod angen gwneud hynny fel rhan o’u cynlluniau datblygu lleol.

Wrth gefnogi’r economi nos, mae angen rhoi ystyriaeth arbennig i gydweddoldeb gwahanol fathau o ddefnydd. Mae ceisio cysgu wrth ymdopi â sŵn yn ystod y nos yn broblem go iawn. Fodd bynnag, mae’r economi nos yn bwysig yn economaidd yn ogystal â darparu profiadau diwylliannol ac adloniannol sy’n rhan bwysig o’n ffordd o fyw. Mae angen i ni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng darparu cartrefi, hwyluso profiadau ymwelwyr, diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw, a sicrhau iechyd a lles trigolion lleol.

Bydd y ‘Polisi Cynllunio Cymru’ diwygiedig yn mynd ymhellach ac yn fwy eglur ynglŷn â’r egwyddor cyfrwng newid. Bydd yn cynnig mwy o gymorth i ganiatáu i awdurdodau ddiogelu ardaloedd sy’n cynnig profiad diwylliannol arwyddocaol cerddorol yn fwy trylwyr. Mae angen rhoi cydnabyddiaeth lawn i’r nodweddion gwahanol sy’n rhoi hunaniaeth i leoedd yn rhan o benderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio. Lle mae camau i liniaru sŵn yn cynnig ateb priodol, rhaid eu rhoi ar waith. Mae hyn yn ymwneud ag unioni’r cydbwysedd a sicrhau bod yr holl faterion yn cael ystyriaeth gyfartal.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro ychydig o bwyntiau sy’n sail i’n penderfyniad i ganolbwyntio ar newidiadau i ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Ni fu unrhyw newid deddfwriaethol i ymgorffori’r egwyddor cyfrwng newid yng nghyfraith y DU. Mae’r newidiadau arfaethedig yn Lloegr mewn perthynas â chyfrwng newid yn cynnwys newid eu fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol, sef yr hyn sy’n cyfateb yno i ‘Polisi Cynllunio Cymru’, a’r argymhellion yw peidio â newid y gyfraith.

Mae’n fwy cyfleus ymgorffori cyfrwng newid drwy ddiwygiadau i’r polisi cynllunio yn hytrach na newidiadau i gyfraith cynllunio. Byddai ymgorffori’r egwyddor cyfrwng newid yn y gyfraith yn golygu ei bod bob amser yn dod yn ystyriaeth berthnasol, hyd yn oed pan nad yw’n berthnasol, a byddai angen treulio amser ar ei diystyru. Nid dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o symud ymlaen, gan nad yw’n ymateb cymesur.

Nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i gyfraith cynllunio er mwyn sicrhau bod yr egwyddor cyfrwng newid yn ffurfio rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Mae canolbwyntio ar newid polisi a chynnwys yr egwyddor hon mewn polisi cenedlaethol yn golygu ei bod yn dod yn ystyriaeth berthnasol ar unwaith i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym mhob achos lle mae’n berthnasol. Mae hwn yn fesur cymesur a chyfleus.

Yn yr un modd, yr unig reswm dros ofyn i awdurdodau cynllunio lleol gynnwys dynodiadau diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth yn eu cynlluniau datblygu lleol fel mater o gyfraith fyddai er mwyn sicrhau bod yr holl gynlluniau datblygu lleol yn eu cynnwys. Nid oes angen gwneud hyn, gan na fydd materion o’r fath yn berthnasol mewn llawer o leoedd—er enghraifft, mewn trefi llai neu leoliadau gwledig.

Mae ymgorffori hyn drwy bolisi cenedlaethol yn golygu, lle mae’n berthnasol dynodi ardaloedd yn seiliedig ar dystiolaeth, y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu ei wneud drwy eu cynlluniau datblygu. Mae statws statudol i’r cynllun ei hun a bydd angen gwneud penderfyniadau wedyn yn unol â’r cynllun. Dyma’r dull cymesur sydd ei angen i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Yn Lloegr, cafodd yr hawliau datblygu a ganiateir eu newid fel ei bod yn bosibl newid swyddfeydd, sy’n cael eu defnyddio yn ystod y dydd fel arfer, yn flociau o fflatiau, sy’n sensitif i sŵn gyda’r nos ac yn ystod y nos, heb fod angen caniatâd cynllunio. Yn Lloegr, mae hyn wedi arwain at broblemau sylweddol iawn i leoliadau cerddoriaeth a gweddill yr economi nos ac maent wedi camu’n ôl rywfaint ar y newidiadau hyn mewn ymateb i ymgyrch lwyddiannus gan y Music Venue Trust. Ni wnaed y newidiadau hyn erioed yng Nghymru ac awdurdodau cynllunio lleol sydd â’r gair olaf o hyd ynglŷn ag a ddylai ceisiadau cynllunio o swyddfeydd i fflatiau gael eu cymeradwyo. Yn Lloegr, mae’r polisi hwn hefyd wedi arwain at gartrefi bach iawn yn cael eu creu o ganlyniad i newidiadau i ddatblygiadau a ganiateir, gyda rhai mor fach ag 16 metr sgwâr yn ôl y sôn—yr hyn a elwir yn fflatiau cytiau cŵn, 40 y cant yn llai nag ystafell Travelodge. Nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn am ei weld yng Nghymru.

Yn olaf, mae’r gyfraith ar niwsans statudol, fel y’i diffinnir yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yr un fath yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu lefel sylfaenol o warchodaeth i ddinasyddion rhag sŵn sy’n niweidiol i iechyd neu’n niwsans. Mae’r system gynllunio a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a chreu cartrefi sy’n ddiogel ac yn iach i bobl fyw ynddynt. Ni allwn wneud yr olaf os ydym yn glastwreiddio cyfraith niwsans.

Felly, nid glastwreiddio hawliau pobl mewn perthynas â niwsans sŵn yw’r ateb, ond mynd i’r afael â’r mater drwy wella polisi cynllunio. Mae cynllunio yn fecanwaith ataliol a gall chwilio am atebion. Rwyf am ei gwneud yn glir mai dyma’r sail i’r newidiadau rydym yn eu cyflwyno. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau y bwriadaf eu gwneud yn taro’r cydbwysedd cywir. Byddant yn rhoi hyder i bawb sy’n rhan o’r broses i ddod o hyd i atebion sydd o fudd i bawb, ac yn cefnogi sîn gerddoriaeth fyw ffyniannus. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio yn dweud wrthynt gymhwyso’r egwyddor cyfrwng newid ar unwaith, a bydd newidiadau pellach yn cael eu cyhoeddi’n rhan o fy adolygiad cyffredinol o ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Diolch.