<p>Mynediad at Wasanaethau Iechyd (Mynwy)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, cofiwch, wrth gwrs, bod ein cyllideb gyfalaf wedi cael ei thorri gan 40 y cant, felly roedd hi'n anodd i ni fwrw ymlaen gyda'r rhaglen fel y byddem ni wedi dymuno ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, bu nifer o welliannau i’r gwasanaeth lleol eisoes, gan gynnwys mynediad uniongyrchol at ffisiotherapi yn Nevill Hall. Mae deietegydd cymunedol a gwasanaethau rheoli pwysau ar gael yno erbyn hyn, gwasanaethau diabetes cymunedol gwell a rheolaeth fferylliaeth well o feddyginiaeth cleifion. Felly, rydym ni eisoes yn gweld datblygiad gwasanaethau newydd yn Nevill Hall, a bydd y datblygiad hwnnw’n parhau, wrth gwrs, yn y dyfodol, ac ar ôl i ysbyty’r Grange agor.