Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mae cofebau rhyfel yn rhan bwysig o’n treftadaeth, ac yn atgof parhaol o’r aberth a wnaed ac o’r golled a ddioddefwyd gan gymunedau. Rwy’n falch bod cynllun grant Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lansio yn 2014 fel rhan o’n gweithgareddau i gofio’r rhyfel byd cyntaf, wedi helpu i ddiogelu cofebau rhyfel ledled Cymru.