Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Gwrandewais ar y cwestiwn yn astud. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw gyhuddiad yr oedd angen ei ddyfarnu allan o drefn yn y cwestiwn hwnnw. Cwestiwn i'r Prif Weinidog ydoedd yn amlwg, ac atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn yn eglur. Nid wyf yn ystyried bod angen i mi ddweud rhagor ar hyn o bryd.