Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais gyda'r Prif Weinidog yr adroddiad damniol hwn a ddaeth i law oddi wrth yr archwilydd cyffredinol ynglŷn â’r ffordd y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi recriwtio rhywun i swydd uwch o fewn ei strwythurau ar lefel cyfarwyddwr, wedi mynd ati i drosglwyddo symiau sylweddol o arian cyhoeddus—dros £300,000 o arian cyhoeddus—a’i bod yn ymddangos nad oes fawr ddim neu ddim atebolrwydd o gwbl o ran yr anallu i ddarparu anfonebau ar ei gyfer. Byddwch yn gweld gwir ddicter ymhlith gweithlu ardal Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro. Rwyf o’r farn fod yr adroddiad hwn yn gofyn am ymateb ar unwaith gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ddeall yn union sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â’r ymatebion hyn sydd yn angenrheidiol i adfer ffydd eto yn y Bwrdd Iechyd Lleol.
Fel y dywedais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol hwn yn wynebu diffyg yn y flwyddyn ariannol hon hyd at £30 miliwn i £35 miliwn. A phan ystyriwch ei fod yn mynd ati yn y lle cyntaf i gyflogi ymgynghorwyr ar £1,000 y dydd ynghyd â threuliau a TAW, ac yna’n cytuno ar gontract cyflogaeth ac yn ceisio caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyflog bandio hyd at £150,000 o uchafbwynt Llywodraeth Cymru ei hun o £136,000, mae angen cael ymateb gan Lywodraeth Cymru i adfer yr hyder y gallai’r staff, oherwydd yr adroddiad hwn, fod wedi ei golli yng ngallu'r rheolwyr a'r cyfarwyddwyr i ddangos llywodraethu da a gofalu am les y Bwrdd Iechyd Lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar i arweinydd y tŷ pe gallai ysgogi naill ai ddatganiad neu lythyr at Aelodau'r Cynulliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i amlinellu'n glir sut y mae’r adran iechyd yn Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r adroddiad hwn.