Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Wel, mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru yr hyblygrwydd i bennu cyllidebau priodol ar gyfer anghenion eu cymunedau. Mae cyllid ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn cynyddu, er gwaethaf y toriadau i'n grant bloc gan eich Llywodraeth Dorïaidd y DU. Y llynedd, darparwyd £35 miliwn yn ychwanegol gennym i’r cynghorau ar gyfer gwasanaethau ysgol ac, yn wir, mae data yn dangos bod y cyllid a ddirprwyir i ysgolion wedi cynyddu y llynedd o £2.123 biliwn i £2.142 biliwn eleni. Rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wario £100 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Cynulliad i godi safonau. Ond byddwn hefyd yn gofyn i'r Aelod, Mohammad Asghar, a fyddai ef yn hoffi gofyn i Justine Greening a allwn gael cyfran deg o'r cyllid a gyhoeddwyd ganddi hi. Yn ôl a ddeallwn, mae’n cael ei gymryd o gyllidebau eraill o fewn y dyraniad addysg yn Lloegr. Heb yr un bunt na’r un geiniog i’n Llywodraeth ni yng Nghymru. A yw wedi mynd—? A yw hynny am ei fod wedi mynd yn gildwrn i'r DUP?